Croeso i wefan Cyngor Cymuned Ciliau Aeron. Mae Cyngor Cymuned Ciliau Aeron yn cynrychioli ardal yng nghanol Ceredigion sy’n rhan o Ddyffryn Aeron. Y prif bentrefi o fewn ardal y Cyngor yw Ciliau Aeron a Chilcennin.
Yn 2011 roedd ardal Cyngor Cymuned Ciliau Aeron yn cynnwys 901 o bobl dros 3 oed, gyda 483 (53.6%) o’r rhain yn medru’r Gymraeg. Mae 375 o gartrefi o fewn ardal y Cyngor, ac mae 69% o’r boblogaeth rhwng 17 a 64 oed sy’n byw yn yr ardal yn gweithio naill ai llawn amser neu ran amser. Cafodd 58% o drigolion yr ardal eu geni yng Nghymru.
Ffynhonnell: Ystadegau Ardal (agor ffenet newydd)
Cyfarfodydd y Cyngor
Mae’r Cyngor yn cyfarfod ar ail nos Iau y mis, heblaw am fis Awst, am 7.30pm yn neuaddau Cilcennin neu Ciliau Aeron bob yn ail. Mae cyfarfodydd y Cyngor yn rhai cyhoeddus ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu. Fel arfer cynhelir y cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg.